Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae cydraddoldeb ym maes tai yn bwysig am fod popeth yn dechrau yn y cartref. Mae tai gwael yn lleihau cyfleoedd bywyd. Rydym yn gweithio i sicrhau fod gan bawb yr un cyfle drwy weithio gyda sefydliadau i leihau rhagfarn, anfantais a thlodi sy’n deillio o faes tai.
Cefnogaeth ar gyfer Sefydliadau
Rydym yn cefnogi sefydliadau i blannu cydraddoldeb fel rhan o’u hymarferion, eu polisïau, eu diwylliannau a’u meddylfryd. Mae ein tîm o arbenigwyr yn helpu sefydliadau i sicrhau eu bod yn rhoi’r un cyfleoedd i bob un o’u tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a’u staff a bod pawb yn cael eu trin â pharch, urddas a thosturi. Mae ein gwasanaethau cefnogi sefydliadol yn cynnwys ymgynghoriadau wedi’u teilwra’n arbennig, hyfforddi a llinell gymorth ar gyfer aelodau. Rydym yn galluogi i’n haelodau ymgysylltu â’i gilydd, dysgu gan ei gilydd ac i hyrwyddo’r hyn maen nhw’n ei wneud drwy rwydweithiau sydd wedi eu harwain gan aelodau, digwyddiadau a’n briffiau arfer da gwerthfawr. Rydym yn cynnig adnoddau ymarferol, offer ac atebion. Rydym yn cefnogi pob sefydliad tai, cydraddoldeb ac eraill sy’n berthnasol ond mae ein haelodaeth ni’n cynnig disgowntiau sylweddol a gwasanaethau sydd ar gael i aelodau’n unig.
Dylanwadu
Rydym yn gweithio â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan annatod o bolisi tai Cymru. Hoffem wneud yn siŵr bod cyfreithiau, polisïau a phenderfyniadau sy’n ymwneud â thai yn arwain at effaith gadarnhaol ar fywydau pobl amrywiol yng Nghymru ac nad ydynt yn arwain at wahaniaethu ac anfantais. Rydyn ni’n ymateb i ymgynghoriadau, yn gwneud sylwadau ar broblemau presennol ac yn dylanwadu ar randdeiliaid ar bynciau allweddol eraill.
Ymwybyddiaeth
Rydym yn codi ymwybyddiaeth o faes tai a’r problemau o anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig. Rydym eisiau sicrhau bod darparwyr, gwleidyddion, tenantiaid ac eraill yn ymwybodol o’r problemau y mae pobl mewn grwpiau gwarchodedig yn eu hwynebu fel bod modd i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i atebion. Byddwn yn gwneud hyn drwy ymgyrchu, ymchwil a chyhoeddiadau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy ein blog a’n Diweddariadau Cydraddoldeb a Thai.