16th Medi 2016

Mewnfudwyr, Ffoaduriaid a Chysylltiadau Cymunedol: adnoddau’r digwyddiad diweddaraf

Mae llawer o heriau a chryn ansicrwydd o’n blaen yn dilyn y refferendwm diweddar.

Er hynny, mae cydlyniant cymunedol yn holl bwysig ar adegau fel hyn wrth i deimladau cryf ddod i’r wyneb ac mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod troseddau casineb wedi cynyddu ers y bleidlais.

Roedd ein digwyddiad diweddar yn edrych ar arferion da i ddelio â materion fel adsefydlu ffoaduriaid, troseddau casineb, cydlyniant cymunedol, ymgysylltu â chymunedau wedi dieithrio, gweithio â mewnfudwyr a herio hiliaeth.

Mae’r cyflwyniadau a gafwyd ar y diwrnod ar gael am ddim i aelodau yn yr adran Mewnfudwyr ar ein tudalen adnoddau ar gyfer Hil, Ethnigrwydd a Thai.

Back
Verified by MonsterInsights