Ymateb ar y cyd i Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Addasiadau Tai
Cred Tai Pawb ac Anabledd Cymru ei bod yn hanfodol gweinyddu gwasanaethau addasu tai yn effeithiol wrth helpu pobl hŷn a phobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac i sicrhau eu llesiant.
Rhaid darparu gwasanaethau addasu mewn dull cyson sy’n bodloni anghenion presennol ac anghenion yn y dyfodol. Rhaid i graffu ar y gwasanaethau hyn ddarparu asesiad cywir o degwch gallu presennol pobl i fanteisio ar wasanaethau yn ogystal â’r wybodaeth ar sut i’w cael.
Dyna pam rydym yn croesawu adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a’i argymhellion. Rydym yn cytuno bod rhaid i ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n integreiddio gwasanaethau ar draws sectorau fod yn arferol ym mhob rhan o Gymru.
Meddai Martyn Jones, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu Tai Pawb:
Mae Tai Pawb wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ein haelodau a’n rhanddeiliaid allweddol ar wella’r ddarpariaeth gwasanaethau addasu ers llawer o flynyddoedd. Mae modd dysgu gan arfer da a’i rannu, ond mae Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw’n glir at anghysondebau y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw.
Hefyd, rydym yn gweithio’n agos gyda’r EHRC ar eu Hymchwiliad i Dai ar gyfer Pobl Anabl ac rydym yn credu y bydd y gwaith hwn, ynghyd ag Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, yn arwain at welliannau sylweddol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau addasu ledled Cymru.
Fodd bynnag, rhaid i ni gofio bod mwy i helpu pobl hŷn ac anabl i fyw’n annibynnol a hybu eu lles na gwella gwasanaethau. Mae’n ymwneud â diogelu hawliau dynol sylfaenol.
Meddai Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Anabledd Cymru:
Rhoddodd Anabledd Cymru dystiolaeth i ymchwiliad Cynulliad Cymru i addasiadau tai yn ôl yn 2012 oedd yn esbonio’r nifer o faterion mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae’n rhwystredig clywed bod problemau o hyd, er bod cynnydd wedi’i wneud o ran symleiddio’r system trwy gyflwyno Galluogi, proses a ariennir gan Lywodraeth Cymru.